translation services
top of page
Search
Writer's pictureFoster Care Values

Foster Care Values yn ymuno â TACT Fostering er mwyn diogelu dyfodol di-elw yng Nghymru

Foster Care Values yn ymuno â TACT Fostering er mwyn diogelu dyfodol di-elw yng

Nghymru Mae gan Foster Care Values (FCV) y pleser o gyhoeddi eu caffaeliad gan TACT Fostering, elusen maethu fwyaf y DU. Mae hyn yn sicrhau dyfodol disglair, di-elw i’r asiantaeth, wrth i Lywodraeth Cymru symud tuag at wahardd gofal maeth sy’n gwneud elw erbyn 2027


Dywedodd Mick Sams, Pennaeth Foster Care Values:

”Wrth i Gymru symud ymlaen a chael gwared ag elw mewn gofal plant, mae Foster Care Values yn hynod o falch o gael bod yn rhan o’r datrysiad. Mae FCV a TACT yn rhannu’r un ethos sy’n blaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc bregus yn hytrach na chreu elw, a thrwy bartneru gyda TACT byddwn yn mabwysiadu statws di-elw. Mi fydd y bartneriaeth yn galluogi FCV i barhau gyda’i chenhadaeth, a darparu sefydlogrwydd hir dymor i’w staff, gofalwyr maeth a phobl ifanc.

Bydd wyth aelod o staff, 26 o ofalwyr maeth, a 41 person ifanc yn ymuno â theulu TACT,

sydd eisoes yn cynnwys rhwydwaith sefydlog o staff a gofalwyr maeth yn Ne Cymru. Mi

fydd yn bartneriaeth y cryfhau presenoldeb TACT a FCV yng Ngogledd Cymru ac felly’n

gwella’r gallu i gefnogi gofalwyr maeth ac awdurdodau lleol drwy’r rhanbarth.


Dywedodd Andy Elvin, Prif Swyddog Weithredol TACT:

“Rydym yn hynod o falch o gael croesawu Foster Care Values i deulu TACT. Drwy ddod a FCV dan berchnogaeth TACT rydym yn rhoi sefydlogrwydd i staff FCV a’u gofalwyr, ac yn eu galluogi i barhau i gynnig gofal ardderchog fel rhan o asiantaeth di-elw.

Yn dilyn y caffaeliad, mi fydd TACT yn berchen ar FCV ond mi fydden nhw’n dal i weithredu o dan yr enw Foster Care Values. Galluogir y berchnogaeth yma i dîm FCV a’r gofalwyr maeth gael mynediad i adnoddau ac arbenigedd sefydliad di-elw cenedlaethol, a sicrhau bod pob ceiniog o elw yn cael ei ail-fusoddi er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gogledd Cymru.


Dywedodd Karen Benjamin, Pennaeth Consortiwm Comisiynydd Plant Cymru (4Cs) sydd

yn croesawu’r caffaeliad:

“Mae FCV a TACT eisoes wedi eu sefydlu’n dda fel partneriaethau o ansawdd ar draws ein consortiwm, ac ar y Fframwaith Cymru Oll i Ofal Maeth (All-Wales Framework for Foster Care), ac felly mae hyn yn ddatblygiad positif fydd yn sefydlogi statws a dyfodol FCV fel darparwyr di-elw. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r ddau sefydliad trwy’r cyfnod pontio a thu hwnt, er mwyn ateb gofynion ein plant mewn gofal yng Nghymru.”

Edrych ymlaen at y Dyfodol

Mae Foster Care Values yn ymfalchio eu bod yn gallu rhannu eu statws di-elw ac yn edrych ymlaen at eu dyfodol fel rhan o TACT. Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu, neu ofalwyr maeth sy’n pryderu am y newidiadau hyn, a’r effaith caiff arnyn nhw, i ymestyn allan, a gofyn am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r bennod newydd gyffrous yma, a’r hyn mae’n olygu i faethu yng Ngogledd Cymru.


Am fwy o wybodaeth ar sut i drosglwyddo i Foster Care Values neu TACT, neu am faethu yng Nghymru, cysylltwch â ni trwy www.fostercarevalues.com

3 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page